Ar y Stryd Fawr

‘I’r Fyddin Fechgyn Gwalia’

£8.00

Dim ond dulliau recriwtio â blas hanfodol Gymreig fyddai â gobaith o lwyddo i ddenu dynion i ymateb i addewid am dipyn o antur cyn y byddai’r ‘cwbl drosodd cyn y Nadolig’. Mae’r gyfrol hon yn dangos sut yr apeliwyd at galonnau a theimladau nid y dynion yn unig, ond eu gwragedd a’u teuluoedd yn ogystal. Gwnaed hynny drwy bosteri wedi’u cynllunio’n ofalus, taflenni a hysbysebion papur newydd. Cafwyd hefyd ddatganiadau tanbaid gan academyddion a gweinidogion blaenllaw Cymreig o lwyfannau cyhoeddus a phulpudau’r capeli. Oedd hi’n ymgyrch effeithiol? Wrth i galw gynyddu, sefydlodd Lloyd George y Corfflu Cymreig. Cofnodir yma…

Out of stock

SKU: 9781845274801
Category:
Tags: ,

Description


Dim ond dulliau recriwtio â blas hanfodol Gymreig fyddai â gobaith o lwyddo i ddenu dynion i ymateb i addewid am dipyn o antur cyn y byddai’r ‘cwbl drosodd cyn y Nadolig’. Mae’r gyfrol hon yn dangos sut yr apeliwyd at galonnau a theimladau nid y dynion yn unig, ond eu gwragedd a’u teuluoedd yn ogystal. Gwnaed hynny drwy bosteri wedi’u cynllunio’n ofalus, taflenni a hysbysebion papur newydd. Cafwyd hefyd ddatganiadau tanbaid gan academyddion a gweinidogion blaenllaw Cymreig o lwyfannau cyhoeddus a phulpudau’r capeli. Oedd hi’n ymgyrch effeithiol?
Wrth i galw gynyddu, sefydlodd Lloyd George y Corfflu Cymreig. Cofnodir yma y rhwystredigaeth wrth geisio sicrhau swyddogion cynhenid Cymreig, y cynllwynio gwleidyddol rhemp a gwrthwynebiad Swyddfa’r Rhyfel. Ceir yn y gyfrol hon hefyd hanes ei lifrai ‘Brethyn llwyd’ unigryw, a hanesion rhai o’r recriwtiaid hynny.
‘Dewch ymlaen, Fechgyn!’ Ond a ddaethant mewn gwirionedd? A ddaethant yn eu miloedd i’r swyddfeydd recriwtio yn yr wythnosau a misoedd cyntaf hynny?
“Ddynion ieuanc Môn, dewch i’r gad yn erbyn y difrodwr. A ydych am adael i Awstralia a Chanada bell a’r India draw waedu dros eich rhyddid chwi? A fydd brwdfrydedd y pelledigion hyn…yn chwyddo eu mynwes a gwresogi eu calon, tra mae torraeth o wŷr ieuanc Cymru yn segura mewn difrawder, ac yn fferu mewn llwfrdra. Mwyaf ymrestra, cyntaf oll y derfydd y rhyfel, a sicraf fydd y fuddugoliaeth.”

Additional information

Language

Cymraeg