Your cart is currently empty!
Ble mae Sali Mali? Gwylia dy hun
Ble mae Sali Mali? Wel, mae’n dda gen i ddweud ei bod hi yma – mewn llyfr codi llabed newydd. (Neu, lift-the-flap book i chi a fi!) Dw i’n falch o’i gweld achos dwi ddim yn meddwl bod y fath beth â digon i’w gael o’r ffefryn mamol a’i ffrindiau apelgar i ddigoni fy nwy fach i. Gwych yw cael cymeriadau a storïau gwreiddiol yn y Gymraeg mewn byd sy’n llawn o greadigaethau Seisnig ac Americanaidd. Ac mae’r testun Saesneg o dan y Gymraeg yn golygu y gall rhieni di-Gymraeg ddarllen gyda’u plant bach. Mae hwn yn llyfr bach da…
Out of stock
Description
Ble mae Sali Mali? Wel, mae’n dda gen i ddweud ei bod hi yma – mewn llyfr codi llabed newydd. (Neu, lift-the-flap book i chi a fi!)
Dw i’n falch o’i gweld achos dwi ddim yn meddwl bod y fath beth â digon i’w gael o’r ffefryn mamol a’i ffrindiau apelgar i ddigoni fy nwy fach i. Gwych yw cael cymeriadau a storïau gwreiddiol yn y Gymraeg mewn byd sy’n llawn o greadigaethau Seisnig ac Americanaidd. Ac mae’r testun Saesneg o dan y Gymraeg yn golygu y gall rhieni di-Gymraeg ddarllen gyda’u plant bach.
Mae hwn yn llyfr bach da a difyr sy’n addas i sawl oedran. Mae’r un fach sy’n ddwy oed a’r un fawr sy’n bedair oed wedi’u plesio, ond dwi’n clywed gan famau eraill am blant chwech oed sy’n dod o hyd i rywbeth yn hwn i’w diddanu.
Sut mae hynny’n bosib ‘te?
Wel, mae’r lluniau mawr lliwgar gan Simon Bradbury yn fendigedig – mae Jac y Jwc yn edrych yn arbennig o drawiadol! Ac mae ’na fflapiau – sori, llabedi – i’w codi ar bob tudalen, bron – a’r rheini’n rhai mawr sy’n anoddach i fysedd bach eu torri!
Chwilio am Sali Mali yw’r gêm yn y stori ac mae Jac y Jwc yn ein harwain i fannau cyfarwydd i chwilio amdani – y stafell molchi, yr ardd, y cwt chwaraeon, y parc, ar lan y môr, y fferm – ac, i orffen, y cwt dan grisiau, ble mae yna un tro ychwanegol yng nghynffon y stori.
Ochr yn ochr â’r stori hon, mae anlwc Jac y Jwc yn parhau wrth iddo gael un ddamwain ar ôl y llall sy’n gyfle i rai bach weiddi, ‘Gwylia Jac y Jwc!’ a ‘Gofalus Jac y Jwc!’ Mewn gwirionedd, mae Sali Mali yn cuddio ar bob tudalen hefyd. Dyma’r soffistigeiddrwydd storïol i blant hŷn.
Stori o fewn stori ‘te? Ie, a sawl cyfle i greu eich storïau eich hunain ac i sylwi ar liwiau, siapiau, geiriau a chymeriadau.
Mae yna ambell beth sy’n gwneud i rieni wenu hefyd. Pan fyddwch yn holi’r rhai bach pwy sy yn y gawod, gweddïwch nad ydyn nhw’n ateb trwy ddweud dad neu mam!
Nawr, bydd yn RHAID i chi brynu’r llyfr i weld pam!
Additional information
| Language | Cymraeg |
|---|





