Your cart is currently empty!
Green-Skinned Gravy
Ar yr olwg gyntaf, roeddwn yn meddwl mai llyfr Saesneg oedd Green-skinned Gravy, ond wedi i mi ddarllen y cefn, cefais fy nenu gan y stori dditectif ddeniadol. Mae Gethin, y prif gymeriad, yn ein tywys drwy’r nofel, o’i waith yn swyddfa Margam Powell, i’r gig enfawr, Roc a Rec. Pan mae Gethin yn cael swydd dros dro gyda’r ditectif preifat Margam Powell, mae’n disgwyl diwrnodau llawn cyffro a dirgelwch, nid diwrnodau llawn gwaith papur a diflastod. Ond yna mae Gethin yn clywed am ddiflaniad Mared Ioan, prif leisydd Green-skinned Gravy, ac yn darganfod bod rhai pobl yn fodlon gwneud…
Out of stock
Description
Ar yr olwg gyntaf, roeddwn yn meddwl mai llyfr Saesneg oedd Green-skinned Gravy, ond wedi i mi ddarllen y cefn, cefais fy nenu gan y stori dditectif ddeniadol. Mae Gethin, y prif gymeriad, yn ein tywys drwy’r nofel, o’i waith yn swyddfa Margam Powell, i’r gig enfawr, Roc a Rec.
Pan mae Gethin yn cael swydd dros dro gyda’r ditectif preifat Margam Powell, mae’n disgwyl diwrnodau llawn cyffro a dirgelwch, nid diwrnodau llawn gwaith papur a diflastod. Ond yna mae Gethin yn clywed am ddiflaniad Mared Ioan, prif leisydd Green-skinned Gravy, ac yn darganfod bod rhai pobl yn fodlon gwneud unrhyw beth i sicrhau bod y gig yn cael ei chynnal.
Mi fyddwn yn argymell y nofel hon i unrhyw un sy’n hoffi stori dditectif. Mae’n nofel grefftus sy’n llwyddo i ddifyrru ac i synnu’r darllenydd hyd at y dudalen olaf.
Additional information
| Language | Cymraeg |
|---|





