Description
Merch ifanc a oedd yn hoffi canu a dawnsio oedd Ann Griffiths. Byddai hi’n gwneud hwyl am ben y bobl oedd yn mynd i gyfarfodydd pregethu. Ond ar y ffordd i ffair Llanfyllin un diwrnod, dyma hi’n aros i wrando ar bregethwr yn siarad â thorf fechan. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, newidiodd bywyd Ann am byth. Dyma hanes yr emynyddes enwog o Ddolwar Fach, sy’n rhan o gyfres Menwyod Cymru.A colourful, large format book for Foundation Age children portraying the story of one of Wales’s most famous women – the hymn writer Ann Griffiths. As a young girl she enjoyed singing and dancing, but her life changed completely after hearing a sermon on the day of the fair at Llanfyllin.






