Description
Fe lifodd llawer o ddŵr yn ystod yr hanner canrif diwethaf o dan y bont a roddodd ei henw i’r Rhyd Fendigaid. Dros yr un cyfnod llifodd miliynau o eiriau drwy feddwl ac o feiro a phrosesydd geiriau un o feibion y fro hefyd, y newyddiadurwr a’r awdur Lyn Ebenezer. Glynodd rhai ohonynt wrth ei gilydd i lunio brawddegau, a ffurfiodd rhai o’r rheiny’n rigymau.The poetry of Lyn Ebenezer.






