Description
Dyma’r ail yn y gyfres o gyhoeddiadau Cymraeg yn ymwneud ag addysg a gofal plant ifainc o’r Drindod Dewi Sant. Cafwyd yn y cyntaf, Y Plentyn Bach, drafodaeth fywiog o natur plentyndod, o ddamcaniaethau dysgu ac o seicoleg ddatblygol. Yn y gyfrol hon, ceir golwg manwl ar Y Cyfnod Sylfaen, sef y cwricwlwm blynyddoedd blaengar i blant Cymru.






