Description
Tydi bywyd ddim yn hawdd i Gwen ac Idris. Mae eu tad wedi colli’r plot a’u mam wedi cael ei chipio i’r is-fyd drwy dwll yn y seler, ac mae’n rhaid iddyn nhw ofyn am gymorth y Meirw Byw er mwyn ei chael yn ôl. Daw’r ddau i ddeall fod ochr gudd i Gymru yn llawn creaduriaid y tu hwnt i’w hunllefau gwaethaf, ac y bydd angen iddynt frwydro yn erbyn pwerau tywyll er mwyn achub eu mamwlad.






